Chwefror 2024

CFfI Gelligaer

Enw y Clwb:

CFfI Gelligaer

Nifer o Aelodau:

45

Lle Rydych chi’n Cyfarfod:

Nelson RFC ar nos Lun am 7:30yh

Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:

Brwdfrydig, angerddol a chyfeillgar

Hoff Weithgaredd Noson Clwb:

Teithiau Fferm a siaradwyr allanol ond hefyd noson gymdeithasol!

Cyflawniadau Codi Arian:

Cerddon ni 32 milltir o Glwb Rygbi Nelson i Felindre yng Nghaerdydd ac yn ôl eto gan godi £10,000 i Felindre ym mis Awst 2022. Bob blwyddyn rydym yn mynd i ganu carolau o gwmpas ffermydd lleol ac yn rhoi pob elw i elusennau lleol.

Gweithio o fewn y Gymuned:

Gwirfoddoli wrth sefydlu ein sioe amaethyddol leol.

Hoff gystadlaethau:

Beirniadu stoc, siarad cyhoeddus a drama. Byddwn yn cynrychioli CFfI Morgannwg yn rownd derfynol Drama Cymru gyfan ar 10 Mawrth 2024.

Sut ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg:

Gan ein bod yn glwb yn Ne Cymru mae’r rhan fwyaf o’n haelodau yn Saesneg iaith gyntaf. Mae aelodau sy’n gallu siarad Cymraeg yn cael eu hannog i’w defnyddio mewn cystadlaethau pan fo’n bosib. Mae gennym faner ddwyieithog a gazebo hefyd.

Unrhyw ffeithiau eraill: 

Fel y rhan fwyaf o glybiau ffermwyr ifanc, roedd CFfI Gelligaer yn ei chael hi’n anodd iawn yn ystod COVID gyda dim ond 6 aelod. Dros y 4 blynedd diwethaf, ers hynny mae ein haelodau hŷn wedi gweithio’n galed i gael y clwb yn ôl ar ei draed ac erbyn hyn mae gennym 45 o aelodau a thyfu!