Wales YFC News
Cynhadledd a Gwobrau Amaeth CFfI Cymru 2026
Am benwythnos a cafom ni fel mudiad CFfI Cymru ar y 17eg-18fed o Ionawr 2026. Fe gynhaliwyd ein Cynhadledd Amaeth blynyddol a Gwobrau Amaeth yn Nhanygraig, Aberystwyth sef enillwyr y wobr Arallgyfeiriad Gorau CFfI Cymru’r llynedd, ag am leoliad perffaith i gynnal y digwyddiad.
Fe ddechreuodd y penwythnos gyda’r Gynhadledd fore Sadwrn gyda thorf o aelodau a’r cyhoedd yn mynychu i wrando ar 3 siaradwr arbennig yn trafod eu gweledigaeth ar y pwnc ‘Ysbrydoli’r Genhedlaeth Nesaf’. Rydym fel mudiad yn hynod o falch o gael tri siaradwr o’r safon uchaf yn mynychu ag yn rhannu eu profiadau, sef Brian Jones MBE, Castell Howell; Katie Davies, Ffarmwraig Pedwaredd Genhedlaeth ag Ifan Roberts, Ffermwr ag Ysgolhaig Nuffield. Yn ystod y sesiwn fe gafodd aelodau cyfle i ofyn cwestiynau cain i’r panel ag oedd yn cael ei gadeirio gan Will Prichard, Cadeirydd Bwrdd Rheoli CCF. Rhaid i ni ddiolch i CCF am noddi ein Cynhadledd ag am y gefnogaeth barhaol dros y blynyddoedd diwethaf, ni fyddai’r diwrnod yn bosib heb eu cefnogaeth nhw.




Fe gafodd y dorf gyfle yn ystod egwyl Cinio i ymweld ag amryw o stondin megis Diogelwch Fferm, FCN Cymru a Phrifysgol Harper Adams. Wedi cinio gan Gegin Cwm Gwaun fe aeth y dorf ar ymweliad Fferm at Deulu Evans, Rhosgoch, Llanilar. Braf oedd clywed am y busnes gan Gethin a’r teulu a sut mae wedi datblygu’r busnes yn ystod y blynyddoedd ag addasu ar hyd y daith. Fe gerddodd y criw i lawr i weld arallgyfeiriad y teulu sef ‘Jibinc’ sef tŷ coeden foethus gyda thwba poeth mewn llecyn tawel i gael dianc o brysurdeb bywyd. Cyn gadael y fferm fe gafodd yr aelodau gyflwyniad gan Rhys Jones o Arwain DGC am ddefnyddio gwrthfiotig ar y fferm ag o fewn y busnes. Fe soniodd hefyd am y cyfle arbennig sydd gan Arwain DCG mewn partneriaeth gyda ‘Nufield’ i unigolyn ifanc i gymryd rhan mewn ymchwil yn tarddu o waith Arwain DGC.




Buan daeth nos Sadwrn a’r amser ar gyfer Gwobrau Amaeth 2026. Roedd gweld Tangraig yn llawn aelodau a’u teuluoedd yn aros yn eiddgar ar gyfer y canlyniadau yn galondid. Cafwyd noson hwyliog dan ofal Dylan Jones, cyn Cadeirydd Pwyllgor Materion Gwledig CFfI Cymru a chyn Cadeirydd CFfI Cymru. Am bryd o fwyd ardderchog gan Teleri a’i thîm o Gegin Cwm Gwaun.

Wedi ychydig o amser yn aros yn eiddgar fe ddaeth hi’n amser i gyhoeddi’r enillwyr yn y chwe chategori eleni yn ogystal â Chystadleuaeth Prif Gynhyrchydd Porc 2025. Iwan Davies, Brycheiniog daeth i’r brig yng Nghystadleuaeth y Prif Gynhyrchydd Porc gyda Teleri Griffiths, Ceredigion yn yr ail safle. Diolchwn yn fawr i’r NFU Charitable Trust a Chyswllt Ffermio am eu cefnogaeth i’r gystadleuaeth trwy gydol y flwyddyn gyda’r gystadleuaeth.

Nesaf fe gafodd Eirwen Williams , ar ran Mentera ei gwahodd i roi ei beirniadaeth ar y Wobr Arallgyfeiriad gorau, nododd bod safon ag amrywiaeth y busnesau yn rhagorol ac anogwyd bob aelod i ddyfalbarhau gyda’u busnesau. Enillwyd y wobr hon gan Huw Eiddon Lewis, CFfI Maldwyn a fe dderbyniodd dau y gil-wobr sef Reece Jones, CFfI Brycheiniog a Lewis Thomas, CFfI Sir Gar.

Leprino oedd yn noddi’r wobr nesaf sef y Stocmon Llaeth Cynaliadwy, Dylan Jones gafodd traddodi’r feirniadaeth yma fel un o’r beirniaid. Yn cipio’r wobr eleni oedd Math Thomas, CFfI Feirionnydd ag yn ail iddo oedd Melissa Fletcher o CFfI Sir Frycheiniog. Roedd y beirniaid wedi eu syfardannu gan frwdfrydedd pob un aelod a gymerodd rhan a diolchodd iddynt am y croeso ar ei ffermydd.

Y ddau a gyrhaeddodd y rhestr fer yn y Wobr Rheolaeth Glaswelltir Gorau oedd Sion Evans, CFfI Maldwyn ac Osian Hughes, CFfI Eryri. Paul Morgan o Germinal oedd ein beirniad ar gyfer y wobr hon ag fe soniodd am y pleser o gael yr anrhydedd o feirniadu ag am gael rhoi yn ôl i’r mudiad ar ôl blynyddoedd lawer fel aelod. Osian aeth ar wobr gyntaf eleni gyda Sion yn yr ail safle.

CCF oedd noddwyr ein Pencampwr Gwledig gyda Richard Lewis a Jeff Evans yn beirniadu. Pwysleisiodd y ddau fod y Gwaith yr oedd bob aelod a cafodd eu cyfweld yn amrhysiadwy yn eu cymunedau ag anogwyd nhw i barhau gyda’u gwaith a’u hymroddiad. Yn fuddugol eleni oedd Lynfa Jones, CFfI Maldwyn gyda Lowri Jones, CFfI Sir Gar yn ail.

Wedi iddynt ymweld â 12 o ffermydd fe ddewisodd y beirniad o Kepak sef noddwyr y Wobr Cynhyrchydd Stoc y Flwyddyn dau aelod ar gyfer eu rhestr fer. Er hyn roedd ganddynt wobr arbennig i roi i Rhianydd Davies, CFfI Sir Gar am iddi sefyll allan yn y gystadleuaeth er ei bod ond yn aelod ifanc iawn o’r Mudiad. Yn fuddugol eleni oedd Daniel Evans, CFfI Ceredigion ag yn ail oedd Iwan Lewis, CFfI Maldwyn. Soniodd Prys Morgan a Frances Thomas o Kepak eu bod wedi mwynhau yn fawr wrth deithio o gwmpas Cymru i ymweld gyda’r holl ffermydd.

Y wobr olaf a chafodd ei chyflwyno oedd Pencampwr Iechyd Meddwl syn cael ei noddi gan DPJ a Samariaid Cymru. Traddodwyd y feirniadaeth gan Gethin Bickerton a Siân Vaughan-Jones. Sir CFfI Maldwyn ddaeth i’r brig eleni gyda Lois Davies, CFfI Sir Gar yn ail. Nododd y panel beirniadu pa mor bwysig oedd y Gwaith roedd pob ymgeisydd yn ei wneud i’r cymunedau ag roedd bob un yn ysbrydoliaeth i aelodau eraill.

Mae’n diolch ni yn fawr i holl noddwyr y gwobrau ag i bawb a fu ynghlwm a’r broses beirniadu a chyfweld. Fe ddaeth y noson i ben gydag adloniant gan Newshan ac mae’n saff i ddweud bod yr aelodau wedi dathlu eu llwyddiannau.




Ar ddydd Sul mwynhaodd aelodau ymweliad â Innovis a oedd yn cynnwys sgwrs gan Dewi Jones am y busnes, ynghyd â ymarfer barnu stoc a cip bach y tu ôl i’r llenni i weld y sganer CT ar waith.”

Edrychwn ymlaen yn barod at y Gynhadledd a Gwobrau Amaeth y flwyddyn nesaf.