Cynhelir Gwobrau Amaeth CFfI Cymru ddydd Sadwrn Ionawr 13eg yn Neuadd Gregynog yn Sir Drefaldwyn yn dilyn Cynhadledd Amaeth CFfI Cymru. Gall aelodau enwebu eu hunain ar gyfer y gwobrau neu gallant gael eu henwebu gan ffrind, aelod o’r teulu neu gyd-ffermwr ifanc. Gellir dod o hyd i’r holl ffurflenni cais isod a rhaid eu dychwelyd i CFfI Cymru erbyn dydd Llun 4 Rhagfyr 2023.